Beth yw Gwyrfai Gwyrdd?

Cwmni newydd nid-er-elw o dan reolaeth lleol sydd am alluogi pobl Dyffryn Gwyrfai ymdopi â newid hinsawdd drwy:
ddarparu trydan gwyrdd, lleol a rhad i wella’u cartrefi i arbed ynni.

Gweledigaeth

Bydd dyffryn Gwyrfai a Chaeathro yn fro llewyrchus a sero net o fewn 10 mlynedd, efo ein cymunedau, sefydliadau a busnesau i gyd yn ymfalchïo yn ein ffordd o fyw mewn partneriaeth ffyddlon â natur.

Beth yw’r Cyfleoedd Tymor Byr i Chi?

Derbyn trydan rhad (20% -25% rhatach), gwyrdd a lleol.

Dylanwadu ar gyfeiriad a gwaith Gwyrfai Gwyrdd.

Cefnogi ein cymunedau i weithredu gyda'n gilydd. 

Beth fydd rhaid i chi wneud i fanteisio?

Ymaelodi efo’n clwb ynni yn gwbl di-dâl

Newid cyflenwr trydan

Gosod smartmeter

Pa Fath o Drydan Gwyrdd?

Trydan rhad wedi’i gynhyrchu’n lleol ac yn gwbl naturiol gan:
- baneli haul cymunedol ar adeiladau cymunedol a lleoedd eraill trwy gytundeb
- cynlluniau hydro sydd yn bodoli eisoes yn y dyffryn