Yli’r haul ar ben y mynydd,
fel erioed ac yn dragywydd
a chlyw sŵn y nant yn gerrynt.
Beth am wneud yn dda ohonynt?

Beth am i ni afael ynddi,
pawb ohonom, mynd amdani?
Gweithio hefo’r byd o’n cwmpas,
ni a natur yn briodas?

Dal yr egni o belydrau,
a throi’r dŵr i’n melin ninnau,
gweld y gwynt fel brawd a chymar,
closio’n dynn, y ni a’r ddaear.

Gwarchod wnawn ein hetifeddiaeth,
natur yn ei holl amrywiaeth
cadw’r fro yn lân a phrydferth
drwy roi sglein ar wastraff diwerth.

Rhannu’r cyfoeth a’r digonedd,
gwneud yn dda â’n byd a’n tirwedd;
troi’r breintiedig a’r anghennus
yn gymuned deg, lwyddiannus.

A rhyw ddiwrnod mi gawn frolio
wrth ein plant, yn byw’n net-sero,
“Dod a wnaethom at ein gilydd,
ni a’r haul a nant y mynydd.”

Meirion MacIntyre Huws