Yr Angen am Weithredu Cynaliadwy
Dim ond 7.1% o Dai Dyffryn Gwyrfai mewn Band EPC A-C
Mae'r ffigyrau diweddaraf gan Swyddfa Ystadegau Gwladol yn dangos mai dim ond 7.1% o stoc tai dyffryn Gwyrfai, o Gaeathro i Waunfawr i Ryd-Ddu mewn band EPC A-C!
Mae hyn yn cymharu efo 24.6% dros Wynedd a 48% ar gyfartaledd dros Brydain. Yn debyg o fod y lle gwaethaf yng Nghymru a Phrydain, o ran safon y stoc tai efo canran tlodi tanwydd efallai dros 60% o gartrefi.
Sefydlwyd Gwyrfai Gwyrdd i wneud gwahaniaeth i'n cymunedau, codi safon ein stoc tai, dod ag adnoddau newydd i mewn, lleihau costau ein trydan, a sicrhau fod cyngor ynni annibynnol ar gael i bawb.
COFIWCH 7.1% !